Cyfieithydd ac Ysgrifennwr Copi Llawrydd
Helpu sefydliadau o bob lliw a llun i roi llais i'w straeon
O benawdau bachog a chopi ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol, i ddeunydd ar gyfer gwefannau, adroddiadau, isdeitlau a dogfennau o bob maint. Rydw i'n cynnig gwasanaeth cyfieithu proffesiynol o'r Saesneg i'r Gymraeg, ac yn aelod o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru.
Am greu copi sy'n canu yn y ddwy iaith? Dw i'n ysgrifennu am bethau, pobl a lleoedd. Felly, os ydych chi'n syllu ar dudalen wag ac yn pendroni am gopi, neu am fireinio darn ysgrifenedig, rydw i yma i'ch helpu. Gwasanaeth ysgrifennu copi ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Gyda mwy na degawd o brofiad yn gweithio i sefydliadau, dw i'n deall y pwysau sydd ar dimoedd, y diffyg amser a'r disgwyliadau sy'n eu hwynebu. Rydw i'n arwain ar ymgyrchoedd, yn cynnig llygad craff ac yn fwy na pharod i dorchi fy llewys a darparu cymorth lle fo'i angen.
Arweiniad arbenigol ar y Gymraeg. Gyda phrofiad helaeth o lunio ac arwain ar strategaethau iaith, mae gen i'r profiad i roi cyngor ar ofynion cyfreithiol, a'r angerdd dros yr iaith i gefnogi staff sy'n defnyddio'r Gymraeg yn eu gwaith o ddydd i ddydd. Rydw i yma i helpu a chefnogi.
Dw i'n dod yn wreiddiol o'r Drenewydd, yng nghanol mwynder Maldwyn, ac yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf. Dw i'n angerddol am y celfyddydau ac adrodd straeon. Ar ôl degawd yn gweithio ar ran sefydliadau celfyddydol a diwylliannol mwyaf blaenllaw Cymru, rydw i'n gweithio ar liwt fy hun fel cyfieithydd ac ysgrifennwr copi ers 2022, gyda phortffolio cynyddol o gleientiaid sy'n rhoi eu ffydd ynof i.
Adrodd stori sefydliadau a lleoedd gwych, a dod â'r cyfan yn fyw yw fy nawn. Rydw i'n aelod o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru ers 2023. Mae fy nghleientiaid yn dod o feysydd amrywiol gan gynnwys y celfyddydau, gwyddoniaeth, iechyd, chwaraeon a mwy.
Dw i'n byw yng Nghaerdydd gyda fy ngŵr a'm merch.
Mae cydweithio â Mair yn bleser. Mae hi'n weithiwr proffesiynol profiadol a doeth, sydd ddim i weld yn cynhyrfu wrth ddelio gyda her neu broblem annisgwyl. Fe wnaeth Mair arwain ar yr ochr gyfathrebu o ymgyrch fideo fawr gan Tŷ Cerdd yn ystod 2026, ac fe darwyd pob un ohonom gan ei chreadigrwydd a'i dawn, yn ogystal â'i dealltwriaeth strategol glir. Mae gallu arbennig Mair yn y Gymraeg a'r Saesneg yn ychwanegu at ei sgiliau. Byddwn yn parhau i weithio gyda hi pryd bynnag ddaw'r cyfle.
Fe wnaethom weithio'n helaeth gyda Mair yn ystod 2023-24 wrth i ni lansio ochr Gymraeg ein gwefan. O ysgrifennu copi creadigol i gyfieithu safonol, prawf-ddarllen a gwirio ystyr a naws, fe wnaeth Mair gyflawni ar bob lefel i ni. Mae hi’n ymroddedig, yn broffesiynol ac yn hyblyg yn ei dull. Mae ganddi lygad craff am fanylion a sgil cynhenid yn ei defnydd o iaith. Mae ei chefndir mewn marchnata a chyfathrebu yn golygu bod ganddi ddealltwriaeth naturiol o fwriad yr ysgrifennu, yn ogystal â'r ddealltwriaeth fwy amlwg o'r copi, ac mae wedi bod yn bleser pur cydweithio â hi ar y prosiect yma. Byddwn yn bendant yn ei hargymell i eraill, a gobeithio y gallwn barhau i weithio gyda hi ar brosiectau eraill yn y dyfodol.
Rydym wedi bod yn gweithio gyda Mair am sawl blwyddyn bellach, ac yn troi ati gyda gwaith cyfieithu i'r Gymraeg. Mae Mair bob amser yn drylwyr, ac yn darllen y gwaith yn ofalus i ddeall tôn a naws. Mae hi bob amser yn ymateb yn brydlon, yn gyfeillgar ac yn ddibynadwy. Rydw i'n ei hargymell yn fawr i unrhyw un sy'n chwilio am wasanaethau cyfieithu o safon uchel.
P'un a oes angen copi gwreiddiol bachog ar gyfer ymgyrch neu ddogfen wedi'i chyfieithu, mae croeso i chi gysylltu i drafod eich prosiect. Rydw i yma i helpu.
Caerdydd, Cymru